Mae dros gant o grwpiau wedi cael eu sefydlu yn yr Alban er mwyn cefnogi annibyniaeth, medd ymgyrchwyr.
Mae papur y Scotsman yn adrodd fod grwpiau wedi cael eu sefydlu ar draws yr Alban mewn ymgais i berswadio cyfoedion a chyfeillion i bleidleisio Ie yn y refferendwm y flwyddyn nesaf.
Mae tystiolaeth yn awgrymu fod pleidleiswyr yn cael eu dylanwadu’n fwy gan ffrindiau na gan wleidyddion ac ymgyrchu etholiadol, ac yn ol y polau piniwn mae gan yr ymgyrch Ie waith perswadio o hyd.
Bydd un o bob tri pherson yn yr Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth medd y polau, ac yn ddiweddar mae unoliaethwyr wedi bod yn targedu’r ansicrwydd am berthynas Alban annibynnol gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd llefarydd ar ran Yes Scotland mai’r ymgyrch Ie fydd “yr ymgyrch lawr gwlad fwyaf mae’r Alban erioed wedi gweld.”
“Yn yr ychydig fisoedd rydym ni wedi bod mewn bodolaeth mae dros gant o grwpiau wedi eu ffurfio, sy’n dangos y brwdfrydedd sydd allan yno.”
Mae 143,000 o bobol wedi llofnodi ‘Datganiad Annibyniaeth’ ymgyrch Yes Scotland. Maen nhw’n anelu am filiwn o lofnodion, ac yn dweud os y bydd miliwn o bobol yn perswadio un person bob un i bleidleisio Ie hefyd, y bydd hynny’n ddigon i ennill y refferendwm.