Fe dderbyniodd llinell gymorth Childline dros 1,000 o alwadau gan blant ar ddydd Nadolig eleni.
Roedd nifer fawr o’r galwadau gan blant a phobol ifanc a oedd yn methu ag ymdopi â phroblemau teuluol, unigrwydd neu faterion iechyd meddwl.
Yn ystod ddoe, fe dderbyniodd gwirfoddolwyr gyfanswn o 1,212 o alwadau, negeseuon testun a negeseuon ffôn arall.
“Mewn rhai achosion, roedd y plant a’r bobol ifanc hyn yn teimlo nad oedden nhw’n gallu siarad â’u teuluoedd, a doedden nhw ddim yn gwybod at bwy arall i droi,” meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth.
Tra bod y mwyafrif o blant yn cael hwyl gyda’u teuluoedd ar ddydd Nadolig, mae’r cyfnod yn gallu bod yn un anodd iawn i blant eraill. Mae straen, trawma a chamdriniaeth alcohol yn gwneud pethau’n waeth.
Yn gynharach eleni, fe gyhoeddwyd canlyniadau arolwg o 14,000 o blant, a oedd yn dangos mai bywyd teuluol oedd yn effeithio fwya’ ar eu hapusrwydd. Roedd 15% o blant yn dweud na fedren nhw siarad gyda’r bobol agosaf atyn nhw.