Facebook yw’r cwmni diweddara’ i ddod o dan y chwydd-wydr, ynglyn â’i daliadau treth.

Yn ôl adroddiadau, mae Facebook wedi symud £44om i gyfri’ tramor er mwyn osgoi taliadau yn y Deyrnas Unedig.

Y llynedd, fe dalodd y cwmni gwefan gymdeithasol gyfanswm o £2.9m o dreth gorfforaethol, ac mae’r ffigwr hwnnw’n cynnwys £240,000 dalwyd yng ngwledydd Prydain.

Er hynny, fe wnaeth y cwmni elw o £800m yn 2011, yn ôl y Sunday Times.

Y gred yw fod Facebook yn defnyddio is-gwmni yn Iwerddon fel pencadlys, er mwyn osgoi talu treth yng ngwledydd Prydain. Mae hyn yn debyg i’r tactegau sy’n cael eu defnyddio gan Google ac Apple.

Doedd Facebook ddim yn fodlon ymateb yn syth i’r honiadau fod y cwmni wedi trosglwyddo £440m i gyfri’ cwmni arall yn Iwerddon yn 2011, cyn i’r cwmni hwnnw droglwyddo’r arian i adran yn Ynysoedd Cayman – lle nad oes angen talu treth.