Mae Andrew Mitchell yn mynnu fod rhai unigolion yn ceisio “gwenwyno” y blaid Dorïaidd a gwneud drwg i’w yrfa wleidyddol yntau, trwy honni iddo alw heddwas yn “pleb”.
Fe gafodd cyn-Brif Chwip, llywodraeth San Steffan, ei orfodi i adael ei swydd yng nghanol storm o brotestiadau, ar ôl ffrae ynglyn â gyrru ei feic trwy gatiau Stryd Downing.
Ond yr wythnos ddiwetha’, fe gyhoeddodd Scotland Yard eu bod yn ail-agor yr ymchwiliad i gynllwyn posib yn erbyn yr Aelod Seneddol.
A ddoe, fe gyhoeddodd plismyn llawr gwlad eu bod nhw’n cefnogi adolygiad newydd i’r achos.
Cyfweliad
Heddiw, mae Andrew Mitchell yn dweud, mewn cyfweliad gyda’r Sunday Telegraph, ei fod yn benderfynol o glirio’i enw.
Wedi hynny, meddai, mae’n benderfynol o ddychwelyd i’r llywodraeth.
“Mae’r cymalau ofnadwy o wenwynig yma, sydd wedi cael eu tadogi i mi, wedi bod yn gwenwyno meddyliau pobol ers wythnosau,” meddai.
“Y bwriad oedd gwenwyno’r blaid Geidwadol a dinistrio fy ngyrfa i, ac maen nhw’n hollol gelwyddog,” meddai wedyn.