Dominic Grieve
Fe fydd cais yn cael ei wneud yn yr Uchel Lys heddiw i ddiddymu cwestau gwreiddiol y 96 o gefnogwyr pêl-droed Lerpwl a fu farw yn Hillsborough 23 mlynedd yn ôl.
Fe fydd cais y Twrne Cyffredinol Dominic Grieve yn cael ei ystyried gan yr Arglwydd Brif Ustus a dau farnwr arall.
Mae disgwyl i rai o deuluoedd y cefnogwyr fod yn y gwrandawiad yn y llys yn Llundain. Maen nhw wedi ymgyrchu i ddiddymu’r dyfarniadau gwreiddiol o farwolaeth trwy ddamwain.
Roedd adroddiad damniol a gyhoeddwyd yn ddiweddar wedi datgelu bod ’na ymgais i geisio rhoi’r bai am y digwyddiad ar y cefnogwyr pêl-droed fu farw yn y drasiedi yn 1989.