Mae ditectifs sy’n ymchwilio i honiadau’n gysylltiedig a cham-drin plant yn erbyn Jimmy Savile wedi arestio dyn yn ei 70au, meddai Scotland Yard.

Cafodd y dyn, sy’n dod o Lundain, ei arestio am 6.30 bore ma ar amheuaeth o droseddau rhyw. Mae’n cael ei holi yng ngorsaf yr heddlu yn ne Llundain.

Cafodd ei arestio fel rhan o Operation Yewtree, sy’n ymchwilio i honiadau o gam-drin rhywiol yn ymwneud a Savile ac eraill.