Fe fydd pobol yn llai tebyg o lanio yn y llys am anfon negeseuon trydar, o ganlyniad i reolau newydd sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.

Ond fe fyddai achosion fel y rhai’n ymwneud â’r treisiwr Cymreig Ched Evans yn dal i arwain at gyhuddiadau, meddai’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.

Bwriad y rheolau newydd yw ceisio gwneud yn gliriach beth sy’n iawn a beth sy’n anghywir yn y cyfryngau cymdeithasol newydd, gan gynnwys Twitter a Facebook.

Fe gyfaddefodd y Cyfarwyddwr, Keir Starmer, eu bod wedi gwneud camgymeriad wrth erlyn dyn a soniodd yn joclyd ar neges trydar am ffrwydro maes awyr.

Angen mwy na sarhau

O dan y rheolau newydd, fydd bod yn sarhaus neu gythruddo pobol ddim yn ddigon i arwain at erlyniad – fe fydd angen mwy na hynny.

Dyw hi ddim yn debyg y bydd achos llys chwaith os bydd negeseuon yn cael eu dileu’n gyflym neu’n amlwg at ddefnydd preifat.

Ond fe fyddai bygythiadau trais, harasio neu negeseuon sy’n torri gorchmynion llys yn arwain at gyhuddiadau.

Un enghraifft o hynny yw’r negeseuon yn datgelu enw’r wraig ifanc a gafodd ei threisio gan bêl-droediwr Cymru, Ched Evans.

Mae naw o bobol eisoes wedi cael eu cosbi am ei henwi ar Twitter a Facebook.

‘Awyrgylch arbennig’

Yn ôl Keir Starmer, mae’n rhaid derbyn bod awyrgylch y cyfryngau cymdeithasol yn wahanol i’r cyfryngau traddodiadol.

Ond fe ddywedodd mai mater i’r Senedd fyddai cyflwyno cyfreithiau newydd ynglŷn â’r maes.