Mae rali heddwch wedi cael ei chynnal ym Melfast heddiw.

Dyma’r ail rali i’w chynnal mewn dau ddiwrnod.

Fe ddaeth hyd at 1,0000 o bobl at ei gilydd yng nghanol y ddinas ar gyfer rali wnaeth barhau am awr.

Trefnwyd y rali gan Paul Currie, artist o Newtownabbey, Swydd Antrim.

Mae’r rali yn ymateb i’r trais sydd wedi ffrwydro yng Ngogledd Iwerddon yn ddiweddar ar ôl i gynghorwyr Cyngor Dinas Belfast bleidleisio i beidio â chwifio baner yr Undeb bob dydd.

Ddoe, roedd 200 o bobl wedi dod ynghyd, ac wedi cydio ym mreichiau ei gilydd gan greu cadwyn o amgylch Neuadd y Ddinas yn Belfast.