Mae dyn 49 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn damwain ym Mynwy neithiwr.

Bu’r dyn mewn gwrthdrawiad â char wrth iddo geisio croesi ffordd yr A40 wrth ymyl Pont Gwy am 6.45 neithiwr.

Aethpwyd â’r dyn i Ysbyty Neville Hall yn y Fenni yn gyntaf ac yna cafodd ei drosglwyddo i’r ysbyty yng Nghaerdydd.

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad neu a welodd yr wrthdrawiad, i gysylltu â nhw ar y llinell ffôn 101.