Mervyn King
Mae Prydain wedi disgyn dau safle yn nhabl safon byw Ewrop.

Disgynnodd Prydain i’r chweched safle yn ôl Eurostat, yn is na’r Almaen ac Awstria, yn bennaf o achos bod y cynnydd mewn prisiau wedi rhoi pwysau ar deuluoedd.

Roedd Prydain eisoes y tu ôl i Lwcsembwrg, Norwy a’r Swistir cyn y newid heddiw, sy’n seiliedig ar faint o nwyddau a gwasanaethau roedd bob cartref wedi defnyddio yn 2011, gan gynnwys iechyd ac addysg.

Ar ddiwedd 2011 dywedodd llywodraethwr Banc Lloegr, Mervyn King, fod cartrefi yn diodde’r wasgfa fwyaf ar safonau byw ers yr 1930au.

Ond mae graddfa defnydd Prydain o wasanaethau yn dal yn 18% yn uwch na’r cyfartaledd o fewn yr Undeb Ewropeaidd, o gymharu ag 20% yn uwch y llynedd.