Ysbyty'r Brenin Edward VII, Llundain
Mae heddlu Llundain wedi cysylltu â heddlu Awstralia gyda bwriad o holi’r ddau gyflwynydd radio a wnaeth alwad ffôn ffug y credir iddi arwain at farwolaeth nyrs.

Roedd y nyrs Jacintha Saldanha wedi cael ei thwyllo gan y cyflwynwyr radio i helpu datgelu manylion personol am iechyd Duges Caergrawnt tra oedd yn Ysbyty’r Brenin Edward VII yn Llundain yr wythnos ddiwethaf. Roedd hi wedi ateb y ffôn ac wedi credu stori’r gyflwynwraig mai hi oedd y frenhines.

Cafwyd hyd i Jacintha Saldanha wedi marw fore Gwener mewn llety nyrsys gerllaw’r ysbyty, lle mae’n ymddangos iddi wneud diwedd amdani’i hun.

Er nad oes cais ffurfiol wedi’i wneud eto, mae heddlu Llandain yn awyddus i holi’r ddau gyflwynydd, Mel Grieg a Michael Christian, cyn y cwest i farwolaeth Jacintha Saldanha. Nid oes awgrym hyd yma fod y ddau wedi cyflawni unrhyw drosedd.

Yn y cyfamser mae bwrdd yr orsaf radio yn Awstralia, Southern Cross Austereo, yn cynnal cyfarfod brys i drafod y gŵyn gan yr Arglwydd Glenarthur, cadeirydd Ysbyty’r Brenin Edward VII.

Yn ôl adroddiadau newyddion o Awstralia, mae Mel Grieg a Michael Christian wedi cael amser caled ers y digwyddiad, gyda gwefannau cyfryngau cymdeithasol yn llawn negeseuon bygythiol a sarhaus.