Rhai o'r gorymdeithwyr yn y rali ddoe
Fe ddaeth tua 500 o bobol i rali yng Nghilmeri ddoe i goffáu 730 o flynyddoedd ers marwolaeth tywysog olaf Cymru, Llywelyn ap Gruffydd yn 1282.

Gorymdeithiodd tyrfa o bobol o dafarn y Tywysog Llywelyn yn y pentref i’r garreg goffa gerllaw, yn ôl traddodiad y rali flynyddol.

Ymhlith y siaradwyr oedd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a’r aelod Cynulliad lleol, Kirsty Williams, a fynegodd ei dyhead i weld y safle yn cael ei ddatblygu yn gofeb teilwng i Lywelyn. Roedd un o’i chyd-Ddemocratiad Rhyddfrydol yn y Cynulliad, William Powell, hefyd yn bresennol.

Siaradodd y Cynghorydd Llafur Sue Lent o Gyngor Caerdydd, a chanodd hi hefyd fel aelod o Gôr Cochion Caerdydd.

Cafodd mudiad newydd o’r enw Mudiad Hawliau Cenedlaethol Cymru ei gyflwyno i’r dyrfa gan Jim Dunckley, a darllenodd yr actor Dafydd Hywel gerdd enwog Gerallt Lloyd Owen, ‘Cilmeri.’

Yn dilyn y rali aeth rhai ymgyrchwyr i gael eu ‘bedyddio’ gan ddŵr y ffynnon y tu ôl i’r garreg goffa ble, yn ôl traddodiad, cafodd pen Llywelyn ap Gruffudd ei olchi yn 1282 ar ôl iddo gael ei ladd ar lan afon Irfon.

Dywedodd prif drefnydd y rali, John Davies o Fforwm Hanes Cymru, ei fod yn chwilio am olynydd i drefnu’r rali y flwyddyn nesaf.