Belfast
Bu sgarmesoedd ar strydoedd Belfast neithiwr ar ôl i gynghorwyr bleidleisio yn erbyn cyhwfan baner Jac yr Undeb ar Neuadd y Ddinas.

Cafodd pymtheg o blismyn, dau swyddog diogelwch a ffotograffydd eu hanafu ar ôl i dorf o 1,000 o unoliaethwyr greu terfysg yng nghanol y ddinas a rhannau o ddwyrain Belfast.

Cafodd briciau a photeli eu taflu a cheisiodd y dorf wthio eu ffordd i mewn i Neuadd y Ddinas.

Beirniadodd y Prif Weinidog Peter Robinson y terfysg.

“Does dim esgus na chyfiawnhad dros ymosod ar blismyn, staff y cyngor, ac eiddo,” meddai.

“Nid yw’r fath yna o ymddygiad yn cynrychioli’r rheiny fu’n ymgyrchu i gadw baner yr Undeb ar Neuadd Dinas Belfast,” meddai Peter Robinson, sy’n arweinydd ar blaid unoliaethol y DUP.

Mynnodd fod y penderfyniad i newid polisi baneri’r cyngor yn “ffôl a phryfoclyd.”

“Mae’r rheiny sy’n siarad fwyaf am adeiladu perthynas gyda’r gymuned wedi niweidio’r berthynas yna ar draws y ddinas,” meddai Peter Robinson.

Pleidleisiodd y cynghorwyr o 29 i 21 o blaid cynnig i beidio cyhwfan Jac yr Undeb ar Neuadd y Ddinas am y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Bydd y faner yn cael ei chodi ar 17 diwrnod penodol yn ystod y flwyddyn, yn unol â pholisi Stormont ac adeiladau eraill y llywodraeth.

Bydd Jac yr Undeb felly yn cael ei thynnu oddi ar Neuadd Dinas Belfast am y tro cyntaf ers i’r adeilad agor yn 1906.