Dug a Duges Caergrawnt
Mae Duges Caergrawnt wedi treulio’r noson yn yr ysbyty ar ôl dioddef o salwch bore difrifol.

Fe gyhoeddodd Palas St James ddoe bod Kate yn disgwyl ei babi cyntaf. Ond roedd ’na bryder wrth iddi gael ei chludo i ysbyty preifat yn Llundain yn dioddef o hyperemesis gravidarum – salwch bore difrifol.

Roedd y Tywysog William wedi aros gyda’i wraig yn yr ysbyty drwy’r dydd ddoe, ac mae disgwyl iddi fod yno am rai dyddiau eto.