Mae Llywodraeth Cymru yn dechrau ymgynghori heddiw ar Fil a fydd yn rhoi datblygu cynaliadwy “wrth wraidd Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.”
Bydd y Bil hefyd yn creu corff datblygu cynaliadwy annibynnol i Gymru.
Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud fod y Bil yn anwybyddu’r Gymraeg ac yn groes i ymrwymiad y Llywodraeth i “brif ffrydio’r iaith o fewn ei holl waith.”
“O dan y Bil hwn, mae ’na berygl bod cyrff cyhoeddus yn mynd i israddio’r Gymraeg fel ystyriaeth polisi,” meddai Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
“Mae’r Llywodraeth am wneud datblygu cynaliadwy yn brif egwyddor drefniadol cyrff cyhoeddus. Yn y cyd-destun hwnnw felly, mae’n hanfodol bod lles y Gymraeg yn rhan o’r diffiniad o ddatblygu cynaliadwy.
“Mae’r rhan fwyaf o benderfyniadau a pholisïau – gan gynnwys datblygiadau tai ac ad-drefniadau addysg – yn cael effaith ar y Gymraeg; ac mae’r iaith wedi dioddef yn y gorffennol oherwydd penderfyniadau anghynaladwy mewn nifer o feysydd.
“Mae hwn felly yn gyfle pwysig i sicrhau bod y Gymraeg yn elwa bob tro bydd cyrff yn gwneud penderfyniad. Mae hefyd yn gyfle i symleiddio penderfyniadau a fyddai’n osgoi trin y Gymraeg yn docenistaidd ac arwynebol,” meddai Toni Schiavone.
‘Yn codi nifer o gwestiynau’ medd y Dems Rhydd
Mae William Powell o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi croesawu’r Bil tra’n dweud ei fod yn codi nifer o gwestiynau.
“Mae creu corff datblygu cynaliadwy annibynnol, ar wahân i Lywodraeth Cymru, yn awgrymu fod ymdrechion y Llywodraeth hyd yma i blannu datblygu cynaliadwy fel egwyddor ganolog o lywodraeth heb lwyddo,” meddai.
“Wrth greu corff newydd mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr fod monitro’r corff yn fwy na dim ond ticio blychau.
“Rhaid iddi ddangos fod y penderfyniad yn fwy effeithlon yn yr hinsawdd economaidd anodd yma,” meddai William Powell.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y Bil tan 4 Mawrth 2013. Yn y cyfamser mae’n trefnu cyfres o sesiynau gwybodaeth i’r cyhoedd a gweithdai i reolwyr cyrff a fydd yn cael eu cynnwys yn y Bil.
Mae’r rhain yn cynnwys cyrff cyhoeddus megis Llywodraeth Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, y Byrddau Iechyd, a chorff newydd Cyfoeth Naturiol Cymru.