Dug a Duges Caergrawnt
Mae Dug a Duges Caergrawnt wedi cyhoeddi heddiw bod y dduges yn disgwyl ei babi cyntaf.

Dywedodd llefarydd bod y Frenhines, Dug Caeredin,  Tywysog Siarl ac aelodau eraill y teulu wrth eu boddau gyda’r newyddion.

Ond fe gyhoeddodd Palas St James bod y Dduges wedi cael ei chludo i Ysbyty Brenin Edward VII yn Llundain heddiw ar ôl dioddef o salwch bore difrifol ac mae disgwyl iddi aros yn yr ysbyty am rai dyddiau.