Banc Lloegr
Mae disgwyl i’r Canghellor George Osborne gyhoeddi enw llywodraethwr newydd Banc Lloegr heddiw.

Mae disgwyl iddo wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin am 3.30yh.

Mae ’na ddyfalu mai’r dirprwy lywodraethwr Paul Tucker fydd yn olynu Syr Mervyn King.

Fe fydd ail dymor Syr Mervyn King yn y swydd yn dod i ben ar 30 Mehefin.

Trwy gyhoeddi ei olynydd heddiw, mae’n bosib bod George Osborne yn gobeithio sicrhau rhywfaint o sefydlogrwydd cyn ei ddatganiad ar 5 Rhagfyr.

Mae’r swydd yn cael ei hystyried yn un o’r rhai mwyaf dylanwadol ym Mhrydain.

Roedd Paul Tucker ynghanol yr helynt ynglŷn â Barclays yn dylanwadu ar  gyfradd Libor yn ddiweddar.

Datgelwyd  negeseuon e-bost rhwng Paul Tucker a chyn bennaeth Barclays Bob Diamond oedd yn ymddangos fel petai wedi rhoi sêl bendith i  ymdrechion y banc i ddylanwadu ar y gyfradd.

Ond fe lwyddodd i oroesi’r helynt ar ôl cael ei holi gan Aelodau Seneddol o Bwyllgor Dethol y Trysorlys.

Credir bod yr ymgeiswyr  eraill yn cynnwys Adair Turner, cyn gadeirydd yr FSA, cadeirydd Santander yn y DU yr Arglwydd Burns, a Syr John Vickers, cyn bennaeth y Swyddfa Masnach Deg.