Aaron Jarvis
Mae tîm hyfforddi Cymru wedi gohirio cyhoeddi tîm Cymru yn erbyn Awstralia gan fod cymaint o chwaraewyr wedi cael eu hanafu.

Bydd y tîm bellach yn cael ei gyhoeddi am 1 brynhawn Iau, yn hytrach na phrynhawn Mawrth.

Roedd yr ail-reng Bradley Davies wedi treulio nos Sadwrn yn yr ysbyty ar ôl derbyn ergyd o ddwrn bachwr Seland Newydd, Andrew Hore, ac mae tîm meddygol y garfan yn ei asesu i weld a fydd yn iach i chwarae.

Yn y cyfamser mae Hore yn wynebu gwrandawiad disgyblu.

Gadawodd y canolwr Jamie Roberts y cae nos Sadwrn gydag anaf i’w glun ac ni fydd yn medru ymarfer tan o leiaf ganol yr wythnos.  Mae disgwyl na fydd Ryan Jones yn ymarfer yn llawn tan ddiwedd yr wythnos chwaith ar ôl cael cwt ar ei ben.

Mae’r prop ifanc Aaron Jarvis allan o’r gêm yn erbyn y Walabîs ar ôl anafu ei ben-glin ar ôl munud yn unig o’r gêm yn erbyn y Crysau Duon. Scott Andrews o’r Gleision yw ei eilydd tebygol, ac mae siawns hefyd gan Samson Lee o’r Sgarlets i gael ei gynnwys yn y 23.

Mae tri chwaraewr arall a gafodd eu hanafu ynghynt yn ymgyrch yr hydref yn gobeithio dychwelyd i ymarfer wythnos yma – y maswr Dan Biggar, yr ail-reng Ian Evans a’r asgellwr George North.

Mae’n rhaid i Gymru guro Awstralia er mwyn parhau o fewn yr wyth detholyn uchaf yn y byd, ac felly cael grŵp haws yn y Cwpan y Byd nesaf yn 2015.