Bradley Davies
Mae bachwr Seland Newydd Andrew Hore wedi cael ei enwi am daro Bradley Davies i’r llawr yn nau funud cynta’r gêm yn erbyn Cymru.

Fe allai’r bachwr wynebu gwaharddiad tan ddiwedd tymor y Crysau Duon, gan gynnwys colli’r gêm yn erbyn Lloegr.

Mae chwarae budr y Crysau Duon wedi cael ei gondemnio gan sylwebwyr, ochr yn ochr ag edmygedd am eu rheolaeth lwyr a’u sgiliau.

Roedd pawb ond y dyfarnwr, Craig Joubert, a’r llumanwyr wedi gweld Hore yn taro Bradley Davies yn gwbl ddireswm, gan ei daro’n anymwybodol.

Fe fu’n rhaid i chwaraewr ail reng Cymru gael ei dynnu o’r maes – y cynta’ o nifer o anafiadau a chwalodd batrwm Cymru, wrth iddyn nhw golli o 33-10.

Rhaid curo Awstralia

Er gwaetha’r canlyniad, mae asgellwr Cymru Alex Cuthbert – sgoriwr un o’r ddau gais – yn dweud bod y tîm yn edrych ymlaen at wynebu Awstralia’r penwythnos nesa’.

Ar ôl dod yn agos yno tros yr haf, roedd yn mynnu y gallai Cymru ennill – ac fe fydd rhaid gwneud hynny i aros yn wyth ucha’r byd ac osgoi grwpiau anodd iawn yn y Cwpan Byd nesa’.