Tro De Orllewin Lloegr oedd hi neithiwr i ddioddef tywydd erchyll. Ond mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio heddiw fod mwy o law ar y ffordd a all gyrraedd Gymru.

Bu farw un ferch 21 oed ac mae dau berson arall wedi eu hanafu’n ddifrifol ar ôl iddyn nhw gael eu taro gan goeden wrth i lifogydd a gwyntoedd cryfion daro De Lloegr.

Bu farw dyn 70 oed ar ôl i’w gar blymio i afon yn Swydd Caergrawnt.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhybuddio fod perygl y bydd llifogydd mewn nifer o bentrefi yng Nghernyw gan gynnwys Lostwithiel, Helston, Polperro a Perranporth.

Roedd pentref Newlyn wedi dioddef llifogydd drwg, ac roedd yn rhaid i drigolion 40 tŷ adael eu cartrefi gan eu bod o dan bum troedfedd o ddŵr.

Dywedodd Dirprwy Prif Gwnstabl Dyfnaint a Chernyw, Sharon Taylor, fod y sefyllfa wedi dechrau sefydlogi yn Plymouth ac yng Nghernyw. Roedd gwyntoedd cryfion a  glaw trwm yn awr wedi taro Dyfnaint, meddai.

Dywedodd fod yr M5 wedi cau i’r de rhwng traffyrdd 25 a 26, ac roedd y llifogydd wedi achosi problemau mawr ar ffordd yr A38.

Roedd y ferch a fu farw yn byw mewn pabell ar ochor y ffordd yn Exeter. Fe syrthiodd coeden ar ben y babell.

Yng Nghymru, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd ar gyfer Dyffryn Dyfrdwy Isaf, o Langollen i Gaer.

Mae’r Asiantaeth hefyd yn dweud fod llifogydd yn bosib mewn 20 ardal, gan gynnwys yr Afon Gwy a Hafren uchaf ym Mhowys, afonydd dalgylchoedd Llwchwr ac Aman, dalgylch Cothi yn Sir Gaerfyrddin, afonydd Tywi isaf islaw Llandeilo, Bran a Gwydderig yn Llanymddyfri, rhannau o bentref Ponbloddyn, afonydd dalgylch Tywi uchaf, Afonydd Thaw a Cadoxton, ardaloedd o gwmpas afon Alyn o Landegla i’r Orsedd Goch, afonydd dalgylchoedd Ewenni a gorllewin Bro Morgannwg, afonydd dalgylchoedd Taf a Chynin, afonydd dalgylch Cleddau Wen, afonydd arfordir gogledd a gorllewin Sir Benfro, afonydd dalgylch Teifi isaf islaw Llanybydder, a Teifi uchaf gan gynnwys Llanybydder, afonydd Gwy a Mynwy yn Sir Fynwy ac afonydd De Sir Benfro.