Mae mwy na 700 o swyddi yn Comet wedi diflannu heddiw wrth i’r gweinyddwyr gyflwyno rhagor o ddiswyddiadau.

Dywedodd Deloitte bod 603 o swyddi’n mynd yn safleoedd dosbarthu’r cwmni, sy’n gweithredu o 12 safle ar draws y DU.

Ac mae 57 o weithwyr eraill wedi colli eu gwaith o bencadlys Comet yn Rickmansworth yn Sir Hertford, ynghyd a 56 o ganolfan alwadau yn Clevedon ac 17 o swyddfa yn Hull.

Yr wythnos ddiwethaf roedd 330 o weithwyr Comet wedi colli eu gwaith.

Hyd yn hyn does dim  swyddi wedi diflannu yn siopau Comet, ond fe rybuddiodd Deloitte ddydd Sadwrn y gallai hyd at 41 o siopau gau erbyn diwedd y mis.