Synod Eglwys Loegr
Fe fydd synod Eglwys Loegr yn cwrdd heddiw i drafod a fydd merched yn cael dod yn esgobion.

Mae disgwyl i’r synod cyffredinol, sy’n cwrdd yn Nhŷ’r Eglwys, Llundain, bleidleisio yfory i benderfynu a ddylid cymeradwyo’r  ddeddfwriaeth cyn i’r mater gael ei drafod yn y Senedd.

Dyma’r penderfyniad mwyaf i wynebu’r synod ers 20 mlynedd pan benderfynwyd caniatáu merched i fod yn offeiriaid.