Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn ymosodiad ar ferch yn Abertawe yn ystod oriau man bore dydd Sul.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar lwybr troed yn ardal Townhill y ddinas rhwng Cilgant Eigen a Chilgant Teilo.

Mae’r ymosodwr yn cael ei ddisgrifio fel dyn croenwyn, rhwng 22 a 36 oed, tua 6’ o daldra. Roedd yn gwisgo cot ddu steil “puffa” gyda logo gwyn ar y frest.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth ac yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn ardal Townhill neu Mayhill rhwng 3yb a 5yb neu a oedd wedi gweld unrhyw beth amheus.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.