Phillip Schofield, cyflwynydd This Morning
Mae Ofcom wedi dweud heddiw ei fod yn ymchwilio i raglen Newsnight y BBC a This Morning ar ITV yn dilyn cwynion bod y ddwy raglen wedi torri “safonau derbyniol.”

Mae’r rhaglenni hefyd yn cael eu hymchwilio gan reolydd y diwydiant darlledu am fethu a chyflawni camau” i atal triniaeth annheg i unigolyn, ac amharu ar breifatrwydd”.

Y rhaglenni dan sylw yw rhaglen Newsnight ar 2 Tachwedd a oedd wedi cysylltu’r Arglwydd McAlpine ar gam gydag achosion o gam-drin plant yng nghartref gofal Bryn Estyn yn Wrecsam, a rhaglen This Morning ar 8 Tachwedd lle’r oedd y cyflwynydd Phillip Schofield wedi cyflwyno rhestr o bedoffiliaid honedig i David Cameron.

Mae ITV eisoes wedi cyhoeddi bore ma ei fod yn cymryd “camau disgyblu priodol” yn dilyn y digwyddiad ar This Morning.

Cafodd Schofield ei feirniadu am gyflwyno’r rhestr i’r Prif Weinidog ar y rhaglen fyw – credir bod y rhestr yn cynnwys enwau rhai o wleidyddion blaenllaw’r Blaid Geidwadol, a dywedodd Phillip Schofield ei fod wedi casglu’r  wybodaeth yn dilyn honiadau ar y we.

Dywedodd llefarydd ar ran ITV bod ymchwiliad wedi ei gynnal i’r digwyddiad a bod  “camau disgyblu priodol” wedi eu cymryd yn sgil hynny. Mae Phillip Schofield ac ITV eisoes wedi ymddiheuro am y digwyddiad gan ddweud eu bod wedi delio a’r mater yn y ffordd anghywir ac nad oedd y camau golygyddol cywir wedi cael eu dilyn yn yr achos yma.

Cytundeb rhwng y BBC ac Arglwydd McAlpine

Yn y cyfamser mae cyfreithwyr yr Arglwydd McAlpine, yn dwedu eu bod ar fin dod i gytundeb gyda’r BBC yn dilyn yr honiadau yn ei erbyn.

Dywedodd yr Arglwydd McAlpine mewn cyfweliad gyda BBC Radio 4 The World at One fod yr honiadau wedi ei frifo a’i synnu a bod y dicter “yn mynd i’ch esgyrn chi”.