Dr Sabah Usmani a'i phlant
Mae gwobr o £10,000 yn cael ei gynnig am wybodaeth yn dilyn tân mewn tŷ a laddodd chwe aelod o’r un teulu.
Bu farw Sabah Usmani, ei meibion Muneeb, 9, a Rayyan, 6, a’i merch Hira, 12, yn y tan yn eu cartref yn Barn Mean, Harlow yn ystod oriau man y bore ar 15 Hydref.
Bu farw mab arall, Sohaib, 11, a merch Maheen, 3, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Gwr Dr Usmani, Abdul Shakoor, oedd yr unig un i oroesi.
Dywed Heddlu Essex eu bod nhw’n amau bod y tŷ wedi ei fwrglera ychydig cyn i’r tân ddechrau.
Heddiw, fy gyhoeddodd Taclo’r Taclau y basen nhw’n talu’r wobr am wybodaeth a fyddai’n arwain at arestio’r rhai fu’n gyfrifol.
Dywedodd Ann Scott, rheolwr rhanbarthol yr elusen bod y digwyddiad yn un torcalonnus a oedd wedi synnu’r gymuned.
“Mae’n amhosib dychmygu sut mae Dr Shakoor, a oedd wedi goroesi’r tân, yn ymdopi ar ôl colli ei deulu.”
Fe apeliodd ar bobl i roi gwybodaeth i Taclo’r Taclau gan bwysleisio y gallai unrhyw lygad dystion fod yn ddienw.
Mae’r heddlu’n awyddus i gael gwybodaeth am bedwar llanc gafodd eu gweld tu allan i’r tŷ yn oriau man 15 Hydref.
Mae’n debyg eu bod nhw rhwng 16 a 19 oed ac yn gwisgo tracwisg a chapiau pêl fas.
Roedd ’na ddau arall ar feiciau.
Roedd car Ford Focus oedd wedi parcio gerllaw hefyd wedi cael ei roi ar dan tua’r un pryd.
Cafodd bag gliniadur yn cynnwys eitemau personol yn perthyn i Dr Shakoor ei ddarganfod ger garejis yn Whitewaits, Harlow ar 26 Hydref. Credir y gallai’r gliniadur fod wedi ei ddwyn yn y lladrad.
Gellir ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555111.