Barack Obama
Mae pryderon economaidd ar ddwy ochr yr Iwerydd gyda ffrae wleidyddol yn yr Unol Daleithiau a disgwyl ffigurau newydd ar gyfer gwledydd yr Euro.
Fe ddisgynnodd y marchnadoedd stoc yn Asia dros nos oherwydd gofid am anghydfod sydd wedi codi rhwng yr Arlywydd a’r Gyngres yn Washington.
Os na fydd y Democrat, Barack Obama, yn gallu dod i gyfaddawd gyda’r Blaid Weriniaethol yn y Gyngres, fe fydd nifer o newidiadau economaidd yn dod i rym y flwyddyn nesa;, gan gostio tua $88 biliwn i’r economi.
Fe fydd yr Arlywydd yn cwrdd ag arweinwyr y ddwy blaid yn y Gyngres fory ond fe ddisgynnodd y marchnadoedd o fwy nag 1% dros nos.
Dirwasgiad yn ardal yr Euro
Yn y cyfamser, mae disgwyl i ffigurau swyddogol ddangos fod bloc gwledydd yr Euro yn swyddogol mewn dirwasgiad am y tro cynta’.
Er bod nifer o’r gwledydd unigol mewn dirwasgiad ers tro, roedd cryfder cymharol yr Almaen – yr economi mwyaf o ddigon – wedi cadw’r bloc cyfan o 17 gwlad uwch y don.
Bellach, mae twf yn yr Almaen yn arafu a dyw twf bychan yn Ffrainc ddim yn ddigon i gadw economi’r bloc i gyd rhag crebachu.