Mae disgwyl i’r Arglwydd McAlpine, gafodd ei gysylltu ar gam gydag achosion o gam-drin plant ar raglen Newsnight, ddod i gytundeb gyda’r BBC meddai ei gyfreithiwr.

Mae cyfreithwyr y cyn wleidydd Ceidwadol wedi awgrymu y bydd yn cymryd camau cyfreithiol ar ôl i Newsnight ei gysylltu ag achosion o gam-drin rhywiol mewn cartref plant yn Wrecsam yng ngogledd Cymru.

Dywedodd y BBC eu bod yn y broses o ddod i gytundeb gyda’r Arglwydd McAlpine.

Fe arweiniodd yr helynt yn dilyn rhaglen Newsnight at ymddiswyddiad  cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, George Entwistle.

Dywedodd yr Arglwydd McAlpine mewn cyfweliad gyda BBC Radio 4 The World at One fod yr honiadau wedi ei frifo a’i synnu a bod y dicter “yn mynd i’ch esgyrn chi”.

Ychwanegodd y gallai’r mater for wedi ei osgoi petai newyddiadurwyr y BBC wedi ei ffonio er mwyn iddo allu ymateb i’r honiadau cyn i’r adroddiad gael ei ddarlledu.

“Fe ddylen nhw fod wedi fy ffonio ac mi fyswn i wedi dweud wrthyn nhw yn union beth wnaethon nhw ei ddarganfod yn ddiweddarach – sef bod hyn yn sothach llwyr a dim ond unwaith yn fy mywyd rydw i wedi bod yn Wrecsam.”

Dywedodd cyfreithiwr yr Arglwydd McAlpine, Andrew Reid bod y cyn wleidydd yn ymwybodol mai’r bobl sy’n talu’r drwydded fydd yn gorfod talu am unrhyw arian mae’n ei dderbyn, ac y byddai unrhyw gytundeb ariannol yn adlewyrchu hynny.

Er nad oedd y rhaglen Newsnight ar 2 Tachwedd wedi cyhoeddi ei enw – gan gyfeirio yn unig at aelod blaenllaw o’r Blaid Geidwadol yn ystod cyfnod Thatcher – fe arweiniodd at gyhoeddi ei enw ar flogiau a gwefannau cymdeithasol ar y we.

Roedd adroddiad swyddogol i ymchwiliad Newsnight gan gyfarwyddwr y BBC yn yr Alban, Ken MacQuarrie wedi dod i’r casgliad bod staff wedi methu a chwblhau “camau newyddiadurol sylfaenol.”

Roedd y rhaglen yn cynnwys cyfweliad gyda Steve Messham, fu’n aros yng nghartref Bryn Estyn, a ddywedodd bod gwleidydd blaenllaw wedi ei gamdrin. Yn ddiweddarach fe ddywedodd ei fod wedi gwneud camgymeriad ynglŷn â’r person fu’n ei gamdrin ac mae wedi ymddiheuro.

Dywedodd yr Arglwydd McAlpine ei fod yn  ddiolchgar i Meesham am glirio ei enw a bod ganddo “gydymdeimlad mawr at Meesham sydd wedi dioddef llawer yn ystod ei fywyd tra fy mod i wedi cael bywyd breintiedig.”

Roedd yr helynt wedi rhoi rhagor o bwysau ar y BBC a oedd eisoes yn wynebu beirniadaeth hallt am ei benderfyniad i beidio â darlledu ymchwiliad gan Newsnight i honiadau o gam-drin gan y cyflwynydd Jimmy Savile.