Abu Qatada
Mae’r clerigwr dadleuol Abu Qatada wedi ennill ei achos apêl yn erbyn cael ei anfon yn ôl i Wlad yr Iorddonen.

Roedd y Comisiwn arbennig i ystyried apeliadau mewnfudo (Siac)  wedi cefnogi ei apêl ar ôl i’w gyfreithwyr honni na fyddai’n cael achos teg yno.

Cafodd Abu Qatada ei gyhuddo o achosion o derfysgaeth  yng Ngwlad yr Iorddonen ym 1999 yn ei absenoldeb.

Roedd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi cael sicrhad gan Wlad yr Iorddonen na fyddai tystiolaeth a gafwyd o ganlyniad i’w arteithio yn cael ei ddefnyddio yn ei erbyn.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref y byddai’r Llywodraeth yn apelio yn erbyn y penderfyniad.

Ychwanegodd bod y Llywodraeth yn “anghytuno’n llwyr” gyda’r dyfarniad.