Leanne Wood
Mewn darlith heno ym Mhrifysgol Aberystwyth bydd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn cyhoeddi bwriad y blaid i wahodd ceisiadau gan bobol o gefndiroedd gwahanol i fod yn ymgeiswyr dros y blaid.
Bydd Leanne Wood yn dweud fod angen denu pobol sydd am wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas i fod yn ymgeiswyr yn hytrach na phobol sy’n frwd am wleidyddiaeth yn unig.
“Rwyf eisiau gallu ysbrydoli pobl o bob carfan o gymdeithas i gynnig eu henwau i sefyll ac i wasanaethu,” meddai Leanne Wood, sy’n traddodi darlith dan y teitl ‘Cymru ar ei Hennill’ heno.
“Mae llawer o swyddi gwag yng ngwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd lle gwelir diffyg gwir arweinyddiaeth,” medd Leanne Wood.
“Nid dim ond syniadau newydd sydd arnom angen i adfywio ac adnewyddu ein democratiaeth. Mae arnom angen pobol newydd. Pobol o gefndiroedd mwy gwahanol.
“Pobol all herio meddylfryd yr hen rigolau. Pobol all roi ysgytwad i system wleidyddol sydd wedi tyfu’n rhy ynysig a hunanol.
“Pobl sydd yn frwd nid am wleidyddiaeth per se ond gydag awydd i wneud gwahaniaeth, a phobl sydd eisiau gweld Cymru fwy llwyddiannus na’r un yr ydym yn byw ynddi heddiw.”
Chwilio am ymgeisydd i fod yn Aelod Seneddol Ceredigion
Mae Plaid Cymru yn chwilio am ymgeisydd newydd i geisio cipio sedd Ceredigion yn San Steffan oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol.
Nid yw Plaid Cymru wedi cynrychioli Ceredigion ers i Simon Thomas golli’n annisgwyl i’r Rhyddfrydwr Mark Williams yn 2005, ac yn etholiad 2010 cryfhaodd Mark Williams ei afael ar yr etholaeth trwy ennill gyda mwyafrif o 8,324 dros ymgeisydd Plaid Cymru ar y pryd, Penri James.
Dywedodd Rob Phillips, Cadeirydd pwyllgor etholaeth Plaid Cymru yng Ngheredigion, eu bod nhw’n “annog unrhyw un sy’n cefnogi Plaid Cymru i ystyried a fyddent yn hoffi rhoi eu henwau ymlaen fel ymgeisydd posib i’r Blaid yng Ngheredigion ar gyfer yr etholiad San Steffan nesaf.
“Mae Plaid Cymru yn credu bod angen agor y prosesau mewnol a ddefnyddir gan bleidiau gwleidyddol i ddewis ymgeiswyr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld aelodaeth Plaid Cymru yng Ngheredigion yn cynyddu dros 33 y cant.
“Rydym felly am fanteisio ar y brwdfrydedd hwn wrth i ni edrych am ein hymgeisydd San Steffan”.