Malala Yousafzai, sy'n gwella mewn ysbyty yn Birmingham (llun PA)
Mae dros filiwn o bobl wedi arwyddo deiseb fyd-eang o gefnogaeth i Malala Yousafzai – y ferch a Bacistan a gafodd ei saethu am ymgyrchu dros addysg i ferched.

Mae’r ddeiseb ‘I am Malala’ yn galw am yr hawl i bob plentyn gael mynd i’r ysgol, a chafodd copi ohoni ei chyflwyno i Uchel Gomisiwn Pacistan yn Llundain heddiw i nodi diwrnod byd-eang o weithredu dros addysg merched.

Mae’n fis union ers i’r ymgyrchwraig 15 oed gael ei saethu yn ei phen gan y Taliban wrth iddi deithio adref o’r ysgol gyda dwy o’i chyd-ddisgyblion yng ngogledd-orllewin Pacistan. Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar ôl iddo hyrwyddo addysg merched a beirniadau eithafwyr y Taliban.

Mae Malala bellach yn gwella yn Ysbyty’r Frenhines Elizabeth yn Birmingham ar ôl cael ei hedfan i Brydain am driniaeth. Mae hi wedi derbyn miloedd o negeseuon ewyllys da ers hynny.

Roedd y gweithgareddau heddiw’n rhan o ymgyrch ryngwladol o dan arweiniad y cyn-brif weinidog Gordon Brown fel Cennad y Cenhedloedd Unedig dros Addysg Fyd-eang.

Yn ôl ffigurau diweddaraf Unesco, mae 61 miliwn o blant trwy’r byd nad ydyn nhw ddim yn yr ysgol, 32 miliwn ohonyn nhw’n ferched. Pacistan sydd â’r nifer ail fwyaf yn y byd o ferched heb fod mewn ysgol.