Bydd gwasanaeth Sul y Cofio Cenedlaethol Cymru’n cael ei gyflwyno ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a’r Lleng Frenhinol yng Nghaerdydd fore yfory.

Bydd cynrychiolwyr o’r lluoedd arfog yn gorymdeithio o Rodfa’r Brenin Edward VII drwy Rodfa’r Amgueddfa at Gofeb Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd, lle bydd colofnau o gyn-Filwyr yn ymuno â nhw.

Fe fydd y gwasanaeth yn dechrau mewn pryd i gynnal y ddau funud arferol o dawelwch am 11.00.

Ymysg y cynrychiolwyr a fydd yn gosod torch ar y gofeb fe fydd Arglwydd Raglaw De Morgannwg ar ran y Frenhines, Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru a’r Cynghorydd Heather Joyce, arweinydd Cyngor Caerdydd.

“Mae’r Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol yn achlysur pwysig a gynhelir rhai tebyg ledled Cymru, gan adlewyrchu ehangder y rhyfelodd a ymladdwyd yn yr 20fed ganrif,” meddai Carwyn Jones.
“Er ein bod yn ffodus ein bod yn byw mewn byd mwy heddychlon, rhaid inni hefyd gofio’r milwyr sy’n gwasanaethu dramor heddiw a’r peryglon sy’n eu hwynebu.
“Mae’r pwysau arnynt a’u teuluoedd yn sylweddol a dylem gofio hynny a chynnig cymorth wrth gofio ac anrhydeddu eu haberth.”