Arlywydd Syria, Bashar Assad
Mae o leiaf 20 o filwyr wedi cael eu lladd wrth i hunan fomwyr ymosod ar ganolfan filwrol yn ninas Daraa yn ne Syria.

Roedd dau hunan fomiwr wedi gyrru eu ceir yn llawn ffrwydron yn fuan ar ôl ei gilydd i ganolfan sy’n cael ei defnyddio gan wasanaeth cudd y llywodraeth yn ogystal â’r fyddin.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yma, ond mae Jabhat al-Nusra, grŵp o eithafwyr Islamaidd sy’n ymladd ar yr un ochr â’r gwrthryfelwyr, wedi cyfaddef ymosodiadau tebyg o’r blaen.

Hwn oedd y diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau ar sefydliadau’r llywodraeth dros y misoedd diwethaf.

Mae’r ganolfan filwrol yn y ddinas lle dechreuodd y gwrthryfel yn erbyn yr arlywydd Bashar Assad ym mis Mawrth 2011.