Mi fydd NHS Direct yn cau’r rhan fwyaf o’i ganolfanau galw gan gael gwared ar gannoedd o swyddi nyrsio, yn ôl arweinwyr undebol.

Yn ôl Unsain bydd 24 o’r 30 o safleoedd NHS Direct yn cau.

Cyflogir 1,500 o nyrsus rheng flaen a staff proffesiynol eraill.

“Bydd cannoedd o nyrsus ymroddedig a gweithwyr proffesiynol y Gweasanaeth Iechyd yn cael eu rhoi ar y clwt, ar gost anferthol, pan gellid defnyddio ei sgiliau o fewn y gwasanaeth NHS111 newydd petae’r Adran Iechyd wedi bod fwy o gwmpas eu pethau,” meddai Sandra Maxwell o Unsain.

Bydd canolfanau mawr yn cau ym Mryste, Sheffield, Wakefield, Nottingham, Hull, Staffordd, Chelmsford a Newcastle yn ôl Unsain.

“O gofio bod nifer o’r canolfanau galw yma mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel mae ofnau mawr am ragolygon y staff o ganfod gwaith yn dy dyfodol,” meddai llefarydd Unsain.