Fe ddylai’r Llywodraeth roi’r gorau i gytuno ar gyflogau staff y Gwasanaeth Iechyd ar lefel genedlaethol, a chaniatau i ysbytai unigol negydu telerau cyflog gyda’u gweithwyr.

Dyna gasgliad mewn adroddiad gan y seiat ddoethion (think-tank) Reform, sy’n dweud y byddai’r drefn newydd yn galluogi ysbytai i wobrwyo’r rhai’n perfformio’n dda, cyflwyno dulliau blaengar o weithio a gwella gofal i gleifion trwy ddelio gyda gweithwyr sy’n tan-berfformio.

Yn ôl dirprwy gyfarwyddwr Reform mae’r trefniadau tâl presennol yn tanseilio bwriad y Llywodraeth o wella ansawdd ac effeithiolrwydd y Gwasanaeth Iechyd.

“Mae gwrthdaro amlwg rhwng yr amcan o gael Gwasanaeth Iechyd o ansawdd uwch a’r gefnogaeth i drefniadau tâl cenedlaethol,” meddai Nick Seddon.

Undeb yn gwrthwynebu

Yn ôl undeb Unison fe fyddai cefnu ar yr arfer o gytuno ar lefelau tâl a thelerau gwaith yn genedlaetho, “yn gwneud dim i wella gofal i gleifion ond yn achosi anghydfod diwydiannol anferthol o fewn y Gwasanaeth Iechyd”.