Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £45,254 i gefnogi gwaith Dangoswch Gerdyn Coch i Hiliaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Dyma ymgyrch sy’n defnyddio chwaraeon i addysgu plant a phobol ifanc sut i atal hiliaeth.
Bydd gweithwyr yr elusen yn cynnal gweithdai mewn ysgolion a chlybiau chwaraeon ac yn addysgu tua 9,000 o bobol ifanc.
Hefyd bydd hyfforddiant i athrawon a gweithdai i griwiau penodol o bobol gan gynnwys troseddwyr ifanc a Sipsiwn.
“Dyma ddatblygiad calonogol ar adeg pan mae pryderon lu am hiliaeth ar y cae ac oddi arno ledled Prydain,” meddai Sanjiv Vedi, Cadeirydd Dangoswch Gerdyn Coch i Hiliaeth yng Nghymru.