Philip Schofield (Nick Morris CCA 3.0)
Mae Ofcom yn ystyried cwynion yn erbyn y cyflwynydd teledu, Philip Schofield, ar ôl iddo ddangos rhestr o bedoffiliaid honedig i Brif Weinidog Prydain ar raglen fyw.

Roedd yr enwau wedi eu casglu oddi ar y We ac, am ychydig, roedd modd darllen yr enwau ar y sgrîn wrth iddo holi David Cameron am yr honiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn ffigurau amlwg.

Fe gafodd cyflwynydd ITV ei gondemnio gan wleidyddion o’r ddwy ochr gyda chyhuddiadau fod ei weithred yn anghyfrifol ac yn stynt.

‘Stynt gwirion’

“Roedd yn stynt gwirion; ddylai e ddim bod wedi gwneud hyn,” meddai’r Ceidwadwr Damian Green. Y Gweinidog Gwladol tros yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol.

Roedd yna beryg meddai o ddechrau “plastro enwau o gwmpas y lle” heb dystiolaeth yn eu herbyn.

Ar y pryd, fe rybuddiodd David Cameron yn erbyn dechrau helfa annheg yn erbyn pobol, gan gynnwys pobol hoyw.