Bydd 520 awr o raglenni S4C yn cael eu darparu gan BBC Cymru bob blwyddyn am y pedair blynedd nesaf yn dilyn cytundeb newydd.
Cafodd y cytundeb ei groesawu gan y naill sefydliad a’r llall yn dilyn y newydd bydd parhad i raglenni teledu gwreiddiol sy’n cael eu cynhyrchu am ddim gan BBC Cymru Wales ar gyfer S4C.
“Rydyn ni’n croesawu ymrwymiad y BBC i gynnal ei wariant ar raglenni ar gyfer y deg awr o raglenni bob wythnos y mae’r Gorfforaeth yn eu darparu i ni,” meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C.
“Mae S4C yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio’n agos gyda’r BBC ar ystod eang o raglenni a gwasanaethau wrth inni adnewyddu’n partneriaeth strategol. Bydd yn sicrhau bod eu rhaglenni o ansawdd uchel yn parhau’n gonglfaen i’n gwasanaeth.
“Mae cytundeb y bartneriaeth yn galluogi’r ddau ddarlledwr i rannu talentau ac adnoddau i greu rhaglenni cyffrous ac arloesol, a thrwy’r bartneriaeth greadigol yma, rydyn ni’n bwriadu sicrhau’r gwasanaeth gorau posib i’n cynulleidfaoedd.”
“Tanlinellu ymrwymiad” y BBC
Mae’r cytundeb yn golygu fod parhad i gyfres Pobol y Cwm, Y Clwb Rygbi, darlledu o’r Eisteddfod Genedlaethol, a rhaglenni newyddion a materion cyfoes.
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies fod adnewyddu’r berthynas yn “tanlinellu ymrwymiad BBC Cymru Wales i ddarlledu yn yr iaith Gymraeg”.
“Yr hyn sy’n hollbwysig yw ein bod wedi sicrhau – er gwaethaf yr hinsawdd ariannol – y bydd lefel ein buddsoddiad mewn rhaglenni poblogaidd yn yr iaith Gymraeg ar S4C yn cael ei diogelu am y pedair blynedd nesaf,” ychwanegodd.
“Mae ein partneriaeth yn dal i gryfhau wrth i ni edrych ymlaen at gydweithio mewn ffyrdd mwy creadigol fyth.”
‘Partneriaeth lwyddiannus’
Dywedodd Ymddiriedolwr y BBC Elan Closs Stephens ei bod yn croesawu’r cytundeb.
“Mae hwn yn adeiladu ar bartneriaeth lwyddiannus sydd wedi gwasanaethu’r gynulleidfa Gymraeg yn dda dros gyfnod y ddau gytundeb blaenorol ac mae’n gosod y sail ar gyfer rhagor o gydweithredu rhwng y ddau ddarlledwr yn y dyfodol er mwyn gwasanaethu’r cynulleidfaoedd rheiny yn well fyth.”