Mae swyddog carchar wedi cael ei saethu’n farw wrth iddo yrru i’w waith yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd ar ei ffordd i’w waith yng ngharchar Maghaberry yn Swydd Antrim.

Ymosodwyd arno rhwng cyffyrdd Lurgan a Portadown ar draffordd yr M1 yn Swydd Armagh, yn ôl Heddlu Gogledd Iwerddon.