Mae disgwyl cadarnhad heddiw fod yr archfarchnad nwyddau trydanol Comet ar fin cael ei dirwyn i ben gan y gweinyddwyr.

Hwn fydd y cwymp mwyaf ymhlith siopau’r stryd fawr ers methdaliad Woolworth bedair blynedd yn ôl.

Mae gan y cwmni 14 o siopau yng Nghymru – 4 yn y gogledd, 3 yn y de-orllewin a 7 yn y de-ddwyrain.

Cafodd Comet ei brynu am £2 gan y cwmni buddsoddi OpCapita yn gynharach eleni, ond mae wedi methu â chael yr yswiriant credyd angenrheidiol er mwyn diogelu cyflenwyr.

Amcangyfrifir y bydd hyd at 6,000 o weithwyr Comet yn colli eu swyddi.