Lefftenant Edward Drummond-Baxter a'r Is-gorpral Siddhanta Kunwar
Cafodd enwau’r ddau filwr gafodd eu saethu’n farw gan ddyn arfog yn gwisgo lifrai heddlu Afghanistan eu cyhoeddi heddiw.

Roedd y Lefftenant Edward Drummond-Baxter a’r Is-gorpral Siddhanta Kunwar yn gwasanaethu gyda chatrawd y Royal Gurkha Rifles.

Dyma oedd taith gyntaf Lefftenant Drummond-Baxter, oedd yn byw yn Sir Durham, i Afghanistan.

Roedd yr Is-gorpral Siddhanta Kunwar, 28, o Pokhara, Nepal a’r Lefftenant Drummond-Baxter mewn cyfarfod gyda phlismyn Afghanistan yn Nahr-e Saraj pan ddechreuodd un o’r dynion danio gwn atyn nhw, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.