Mae cymdeithas feddygol y BMA wedi rhybuddio y gallai cleifion ddioddef pe bai cytundebau newydd yn cael eu cyflwyno i feddygon teulu.

Byddai’r cytundebau newydd yn golygu codiad cyflog o 1.5% i feddygon teulu, ond byddai targedau’n cynyddu a byddai disgwyl iddyn nhw wneud llawer iawn mwy o waith gweinyddol am ychydig iawn o gyflog ychwanegol.

Ac mae meddyg teulu wedi rhybuddio nad yw’r cynlluniau gofal newydd yn darparu’n ddigonol ar gyfer cleifion â salwch meddwl.

Dywedodd Dr Phil White, sy’n feddyg teulu yn y Felinheli a Phorthaethwy, ac yn gynrychiolydd pwyllgor meddygon teulu Cymru: “Y broblem yw bod y newidiadau maen nhw’n eu hystyried ar gyfer ein contract ni yn mynd i gael effaith andwyol ar Gymru wledig, yn arbennig lle mae meddygon yn ddibynnol ar ychwanegiad at y pres i redeg y meddygfeydd.

“Y bwriad yw tynnu’r pres ychwanegol yma dros y saith mlynedd nesaf yma. Ond yn barod mae ganddon ni broblem cael meddygon i ddod i weithio yng ngogledd orllewin Cymru, a gweld hwn yn mynd yn waeth os y bydd hwn yn cael ei weithredu ydyn ni.”

Bwlch mewn cyflogau

Rhybuddiodd Phil White fod chwyddiant yn cael effaith ar gyflogau meddygon, a bod yna fwlch mawr rhwng cyflogau meddygon yng Nghymru a Lloegr.

Ychwanegodd: “Ry’n ni yn cael 15% yn llai na meddygon Lloegr yn barod.

“Ond yn anffodus yng Nghymru mae baich y gwaith ryw 15% yn fwy, felly mae yna gryn wahaniaeth rhwng y ddwy wlad ar y foment.

“Ac rydan ni yn gweld meddygon ifanc yng ngogledd Cymru yn arbennig yn tueddu i fynd i weithio dros Glawdd Offa yn Sir Gaer ac ochrau Glannau Mersi oherwydd bod yr amodau gwaith yn well.”

Mae yna bryderon hefyd y gallai cytundebau newydd gael effaith ddifrifol ar wasanaethau meddygol yng nghefn gwlad, yn enwedig o ran iechyd meddwl.

“Dydy’r contract, fel mae’n sefyll, ddim yn cymryd i ystyriaeth problemau cefn gwlad a hefyd problemau seicolegol sydd yn cael eu creu yng nghefn gwlad.

“Mae pawb yn cydnabod tlodi mewn dinas, fedrwch chi ei fesur o. Yn anffodus mae tlodi cefn gwlad yn wahanol, mae’n llawer mwy anodd i ystyried sut mae pethau yn effeithio pobl, megis perchnogaeth car.”

“Dw i’n credu mod i yn gwneud y gwaith y byddai ymgynghorydd wedi ei wneud pan o’n i’n dechrau fel meddyg.