Fiona Bone, chwith, a Nicola Hughes
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo gan dditectifs sy’n ymchwilio i lofruddiaeth sy’n gysylltiedig ag ymosodiad a arweiniodd at farwolaeth dwy blismones ym Manceinion.
Mae Francis Dixon, 37, o ardal Stalybridge ym Manceinion, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio David Short, meddai’r heddlu.
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio ac o achosi ffrwydrad.
Fe fydd yn mynd gerbron ynadon Dinas Manceinion heddiw.
Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud a lladd tad a mab.
Bu farw Mark Short ar ôl cael ei saethu yn ei wddf gan ddyn arfog yn y Cotton Tree Inn yn Stryd y Farchnad, Droylesden, Tameside tua 11.50yh ar 25 Mai.
Ar Awst10, bu farw ei dad, David Short, mewn ymosodiad gwn a grenâd ar ei gartref yn Clayton, Manceinion tua 10.30yb.
Ychydig funudau’n ddiweddarach, bu ffrwydrad arall lai na hanner milltir i ffwrdd yn Droylsden.
Bu farw’r ddwy blismones Nicola Hughes, 23, a Fiona Bone, 32, mewn ymosodiad gwn a grenâd ar ôl iddyn nhw ymateb i alwad am ladrad yn Hattersley ar 18 Medi.
Mae Dale Cregan, 29, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio’r ddwy blismones a Mark a David Short.
Mae Cregan hefyd wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio Michael Belcher, Ryan Pridding a John Short a oedd yn y dafarn gyda Mark Short pan gafodd ei saethu.
Mae hefyd yn wynebu cyhuddiad arall o geisio llofruddio Sharon Hark yn dilyn y digwyddiadau ar y diwrnod hwnnw.
Mae Anthony Wilkinson, 33, a Jermaine Ward, 24, wedi cael eu cyhuddo o lofruddio a cheisio llofruddio mewn cysylltiad â marwolaeth David Short.
Mae Damian Gorman, 37, Luke Livesey, 27, Ryan Hadfield, 28, a Matthew James, 33, i gyd wedi eu cyhuddo o lofruddio Mark Short.
Mae disgwyl i Cregan fynd gerbron Llys y Goron Lerpwl ar 5 Tachwedd.