Y rali yn Llangefni
Fe fydd yr protestio yn erbyn gorsaf niwclear newydd yn Wylfa yn dwysáu, meddai ymgyrchwyr, sy’n dweud nad ydyn nhw eisiau Wylfa-shima yn Ynys Môn.

Roedden nhw’n ymateb i’r newyddion fod cwmni Japaneaidd Hitachi wedi prynu cynllun Horizon oddi ar gwmnïau RWE ac EON.UK gyda’r bwriad o godi atomfeydd yn Wylfa ac Oldbury yn Lloegr.

Mae mudiad PAWB – Pobol yn Erbyn Wylfa B – yn dweud y bydd Hitachi’n defnyddio adweithydd tebyg i’r rhai a gafodd eu difrodi gan ddaeargryn a tswnami yn Japan flwyddyn a hanner yn ôl.

“D’yn ni ddim eisiau Wylfa-shima,” meddai Dylan Morgan, un o arweinwyr y mudiad. “Mae’n fater o bryder mawr bod technoleg sydd wedi cael ei gwrthod gan Japan am gael ei defnyddio yma.

“Un ymgais ola’ yw hon gan Hitachi sydd yn methu cael gwaith yn eu gwlad eu hunain.”

Fe ddywedodd y byddai’n rhaid i Lywodraeth Prydain roi sybsidi i helpu talu am yr atomfeydd newydd ac y byddai pobol Môn yn gorfod talu “o ran risg iechyd, risg diogelwch a difrod i’r amgylchedd”.

Llywodraeth yn croesawu

Mae’r newyddion am Wylfa wedi cael ei groesawu gan y Llywodraeth, sy’n dweud y bydd 60% o’r deunyddiau at yr atomfa yn dod o wledydd Prydain.

Mae’ cwmnïau Rolls Royce a Babcock ymhlith rhai sydd wedi arwyddo cytundebau gyda Hitachi ac mae sôn hefyd am safle newydd i adeiladu cydrannau.

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, David Jones, fe fydd y datblygiad newydd o fudd i ogledd Cymru i gyd.

‘Cario ymlaen i ymgyrchu’

Roedd pwyllgor PAWB wedi cyfarfod yr wythnos ddiweetha’ i drafod y sïon am Hitachi ac maen nhw’n dweud y bydd yr ymgyrchu’n cynyddu.

Roedd rali yn Llangefni ddechrau’r flwyddyn ac roedd Cymry ymhlith y rhai a gafodd eu harestio am feddiannu safle niwclear arall yn Hinckley yn yr haf.

“Mi fyddwn ni’n cario ymlaen i ymgyrchu ac mi fydd yr ymgyrch yn dwysáu,” meddai Dylan Morgan. “Mi fydd rhaid i ni sicrhau proffil uchel i’n gwrthwynebiad.”