Cameron - y bwlch yn lledu
Mae’r Blaid Lafur fwy ar y blaen i’r Ceidwadwyr nag ar unrhyw adeg ers yr Etholiad Cyffredinol, yn ôl y pôl piniwn diweddara’.
Yn ôl arolwg ComRes i bapur yr Independent, maen nhw 11 pwynt ar y blaen – digon i roi mwyafrif o 116 yn Nhŷ’r Cyffredin.
Dyma’r manylion:
- Llafur – i fyny 6 ar 44%
- Ceidwadwyr – i lawr 2 ar 33%
- Democratiaid Rhyddfrydol – i lawr 3 ar 12%
Arolwg ffôn ar draws gwledydd Prydain oedd hwn felly heb fod yn ddigon manwl i roi ffigurau clir i Gymru.
Roedd yr arolwg o 1,000 o bobol hefyd yn dangos fod 67% yn credu bod y Prif Weinidog a’r Canghellor, David Cameron a George Osborne, “allan o gysylltiad” gyda phobol gyffredin.
Ond roedd hi bron yn gyfartal wrth farnu a oedd y Llywodraeth yn gymwys at eu gwaith.