Bydd merched sy’n rhoi’r gorau i ‘smygu cyn eu bod nhw’n 30 oed yn fwy na thebyg o osgoi y perygl o farw’n ifanc oherwydd effaith tybaco yn ôl canlyniadau astudiaeth o dros filiwn o ferched yn y DU.

Mae canlyniadau’r arolwg yn cael eu cyhoeddi yn y cylchgrawn meddygol ‘The Lancet’ ac yn astudiaeth o’r genhedlaeth o ferched ddechreuodd ‘smygu yn y 50au a’r 60au.

Gan nad oedd merched yn arfer ‘smygu cymaint o dynion dim ond heddiw y mae hi wedi bod yn bosibl cynnal archwiliad o effaith oes o ‘smygu ar fywyd merched.

Yn ôl awdurdon yr ymchwil, mae merched sy’n ‘smygu trwy gydol eu hoes yn debygol o farw degawd ynghynt na merched sydd erioed wedi ‘smygu.

Mae merched sy’n rhoi’r gorau iddi cyn eu bod yn 30 yn debygol o golli mis o fywyd o’u cymharu â merched sy’n ‘smygu tan eu bod yn 40, ac mae y rhai hynny yn debygol o farw flwyddyn ynghynt.

“Rydyn ni wedi dangos bod merched sy’n ‘smygu fel dynion yn marw fel dynion,” meddai’r prif wyddonydd yr Athro Syr Richard Peto o Brifysgol Rhydychen.

“Mae rhoi’r gorau iddi yn gweithio beth bynnag a hynny yn anhygoel o effeithiol. Mae ‘smygu yn lladd, mae rhoi’r gorau iddi yn gweithio a gorau po gyntaf y byddwch yn rhoi’r gorau iddi,” meddai.

Tra’n croesawu cyhoeddi’r gwaith ymchwil am 1.2 miliwn o ferched dywedodd Dr Lisa McNally sy’n gweithio ar gynlluniau’r Gwasanaeth Iechyd i annog pobl i roi’r gorau i ‘smygu, bod perygl i bobl ifanc ystyried bod canlyniadau’r adroddiad yn awgrymu ei bod yn ddiogel i ‘smygu hyd nes eu bod nhw’n 40.

Ychwanegodd bod y rhan fywaf o ferched ifanc yn rhoi’r gorau iddi oherwydd effaith tybaco ar eu crwyn neu am eu bod yn feichiog.