Frankie Boyle
Mae’r comedïwr dadleuol Frankie Boyle wedi ennill iawndal o £50,000 ar ôl i reithgor Uchel Lys ddod i’r casgliad ei fod wedi cael ei enllibio.

Roedd Frankie Boyle, sy’n 40 ac yn dod o Glasgow, wedi honni fod y Daily Mirror wedi ei enllibio trwy ei alw’n berson hiliol.

Roedd cyhoeddwyr y Daily Mirror, Mirror Group Newspapers, wedi amddiffyn yr erthygl a gafodd ei chyhoeddi ar Orffennaf 19, 2011.

Roedd MGN wedi dweud fod y term “hiliol” nail ai yn wir neu yn “sylw gonest ar fater o ddiddordeb i’r cyhoedd.”

Penderfynodd y rheithgor o blaid Frankie Boyle.

Nid ydyn nhw wedi dod i benderfyniad ar ail fater, sy’n ymwneud ag adroddiad y Daily Mirror fod Frankie Boyle wedi cael “ei orfodi i adael” sioe banel y BBC Mock The Week.