Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi galw am ddadl frys yn y Senedd i drafod yr adroddiad i’r elusen lleiafrifoedd ethnig AWEMA.

Dywed y blaid eu bod yn galw am y ddadl gan nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ddigonol i’r adroddiad beirniadol am berthynas y Llywodraeth ac AWEMA gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau diwethaf.

Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi dweud fod rheolaeth Llywodraeth Cymru o arian grant i AWEMA “yn wan” a’u bod wedi methu â chymryd sylw o rybuddion ynglŷn â grantiau tros gyfnod o ddeng mlynedd.

Os yw cais y Dems Rhydd yn cael ei dderbyn, yna fe fydd Aelodau’r Cynulliad yn cael pleidleisio o blaid neu yn erbyn cynnal dadl ar y mater.

‘Gwarthus’

Dywedodd Peter Black AC, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gydraddoldeb: “Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru am ddefnyddio pob ffordd sydd ar gael i ni i orfodi gweinidogion Llafur i wynebu eu cyfrifoldebau.

“Er nad yw cais am ddadl frys yn digwydd yn aml, rydym yn credu bod hyn yn fater sy’n galw am gwestiynau gan Aelodau Cynulliad ac atebion gan weinidogion Llafur.”

Ychwanegodd: “Mae gan bobl Cymru’r hawl i glywed pam bod gweinidogion yn credu ei bod yn dderbyniol bod miliynau o bunnoedd o arian  y trethdalwr wedi cael ei daflu at sefydliad nad oedd yn sefydlog yn ariannol.

“Mae gweinidogion Llafur wedi gwrthod pob cyfle i esbonio eu gweithredoedd. Mae’n warthus nad ydan ni wedi cael yr un datganiad gweinidogol ers i’r adroddiad gael ei gyhoeddi.”

‘Camau wedi eu cymryd’

Wythnos ddiwethaf dywedodd  prif was sifil newydd Cymru bod y Llywodraeth eisoes wedi gweithredu i wella’i ffyrdd o reoli grantiau.

Ond mae rhagor i’w wneud, meddai Derek Jones, sydd newydd ddod i swydd yr Ysgrifennydd Parhaol.

Dywedodd bod camau wedi eu cymryd yn ôl yn 2010, trwy greu Prosiect Rheoli Grantiau a hwnnw’n cynnwys Canolfan Ragoriaeth i ddatblygu prosesau, trefniadau gweithio, cyngor a deunyddiau eraill.

Mae’r prosiect yn ymwneud â grantiau pan na fydd unigolion neu fudiadau wedi gorfod mynd trwy broses ‘gaffael’ a gorfod cystadlu am yr arian yn erbyn eraill.

“Rydyn ni eisoes wedi gosod sylfeini cadarn, ond fel Ysgrifennydd Parhaol newydd rwy’n benderfynol o sicrhau y byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwaith hwn,” meddai Derek Jones.