Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond
Mae Plaid Genedlaethol yr Alban, yr SNP, wedi datgan eu cefnogaeth i’r Alban ymuno â chynghrair filwrol Nato os daw hi’n wlad annibynnol.

Yng nghynhadledd y blaid yn Perth, cafodd cynnig a oedd yn cael ei gefnogi gan yr arweinydd Alex Salmond i wrthdroi gwrthwynebiad yr SNP i Nato ei basio o 29 pleidlais.

Roedd y bleidlais yn rhyddhad i Brif Weinidog yr Alban ar ôl dadl danllyd a barhaodd am ddwyawr a hanner, gydag aelod ar ôl aelod yn cyhuddo’r SNP o ‘werthu eu hegwyddorion’ ac o fod yn ‘rhagrithwyr’.

Roedd pawb o weinidogion yr Alban wedi cefnogi’r cynnig, ac wedi dadlau na fydden nhw’n ymuno â Nato hyd nes y bydden nhw’n cael ymrwymiad i gael gwared ar Trident o’r Alban.

Er gwaetha’r fuddugoliaeth i’r arweinyddiaeth, mae’r ddadl wedi achosi’r rhwyg mwyaf o fewn yr SNP ers i Alex Salmond gael ei ethol fel arweinydd am yr ail dro yn 2004.