Mae’r heddlu’n parhau gyda’u hymchwiladau i’r gyflafan yng Nghaerdydd brynhawn ddoe.

Cafodd mam i dri o blant ei lladd ac 11 o bobl, yn oedolion a phlant, eu hanafu ar ôl cael eu taro i lawr gan yrrwr fan wen yn ardal Ely o’r ddinas tua 3.30pm.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Paul Hurley bod yr heddlu’n trin yr ymchwiliad fel achos o lofruddiaeth.

Ychwanegodd fod dyn 31 oed a gafodd ei arestio ddoe’n cael ei holi yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd ar hyn o byd, ac nad oes awgrym hyd yma fod neb arall â rhan yn y digwyddiad.

Wrth apelio am unrhyw dystion, dywedodd eu bod nhw’n chwilio’n arbennig am wybodaeth am Renault Clio gyda phlât 55 a oedd yn cael ei yrru’r ochr anghywir i draffordd Western Avenue ger archfarchnad Tesco brynhawn ddoe.

Dywedodd hefyd eu bod nhw’n awyddus i glywed oddi wrth unrhyw un a oedd yng nghyffiniau Cowbridge Road West, yn enwedig gerllaw’r orsaf heddlu a’r orsaf dân, Leckwith Road a gorsaf betrol Asda ger Stadiwm Dinas Caerydd rhwng 3.25 a 4pm brynhawn ddoe a welodd fan wen.

“Welsoch chi’r fan? Welsoch chi’r gyrrwr? Oeddech chi’n dyst i unrhyw un o’r gwrthdrawiadau?” gofynnodd yr Uwcharolygydd.

“Dw i’n apelio arnoch i gysylltu â ni gydag unrhyw wybodaeth arall sydd gennych ynghylch y digwyddiadau hyn, waeth pa mor ddibwys y credwch iddo fod.”

Naw yn dal yn yr ysbyty

Yn y cyfamser, mae naw o bobl yn dal yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd ar ôl y digwyddiadau erchyll brynhawn ddoe.

Mae dau o’r rhai a gafodd eu hanafu – dau oedolyn – mewn cyflwr difrifol, ac mae pump o’r lleill yn blant.

Cafodd y wraig ifanc a fu farw yn yr ymosodiad ei henwi’n answyddogol fel Karina Menzies, a oedd yn fam i dri o blant, gan gynnwys plentyn anabl sydd ar wyliau yn America.

Wrth dalu teyrnged iddi, dywedodd yr Aelod Seneddol lleol Kevin Brennan:

“Mae’r hyn sydd wedi digwydd yn ddychrynllyd a’r ffaith ei bod hi’n ymddangos fod rhywun wedi defnyddio cerbyd fel arf.

“Roedd Karina’n fam boblogaidd ac roedd ganddi dri o blant, un ohonyn nhw’n anabl ac ar wyliau yn Florida.

“Mae’r digwyddiad hwn y tu hwnt i wallgofrwydd ac wedi sigo’r gymuned gyfan.”

Roedd Karina Menzies yn un o’r bobol a gafodd ei tharo y tu allan i orsaf dân Trelái, wrth i’r fan wibio o un lle i’r llall yng ngorllewin y ddinas gan yrru ar balmentydd a tharo pobol a phlant.