Milwyr PKK (James Gordon CCA 2.0)
Mae naw o bobl wedi cael eu lladd mewn brwydrau rhwng lluoedd diogelwch Twrci a gwrthryfelwyr Cwrdaidd yn ne-ddwyrain y wlad.

Dywed asiantaeth newyddion Twrci bod tri milwr a thri gwrthryfelwr wedi cael eu lladd yn nhalaith Hakkari, gerllaw’r ffin ag Irac.

Dywed yr asiantaeth hefyd fod y gwrthryfelwyr wedi ymosod ar uned filwrol yn nhalaith Bitlis i’r gogledd-orllewin o Hakkari , gan ladd tri o swyddogion y llywodraeth sy’n helpu’r milwyr.

Mae’r ymosodiadau’n arwydd pellach o wrthdaro cynyddol yn ne-ddwyrain Twrci, lle mae Plaid Gweithwyr Cwrdistan, neu’r PKK, yn brwydro dros hunan lywodraeth.